Heol Roseland, Waunarlwydd, Abertawe, SA5 4ST

ygg.loginfach@swansea-edunet.gov.uk

01792 874399

YGG Y Login Fach

Gallaf lwyddo ond i mi roi cynnig arni

A A A

                                 

Gwybodaeth allweddol / Key Information

Ein Gweledigaeth

 

Yn nheulu Y Login Fach rydym yn ymrwymo i roi y cyfleoedd gorau posib i fod yn unigolion iach, hyderus, gonest, creadigol gan annog ein dysgwr i fod yn annibynnol ac yn uchelgeisiol. Ymfalchïwn yn ein Cymreictod a’n diwylliant gan sicrhau bod ein gwerthoedd a’n hegwyddorion yn sail i bopeth yr ydym yn ei wneud. Ein bwriad yw meithrin cariad at ddysgu ymhlith ein dysgwyr â’r cariad hwnnw o fudd iddynt am weddill eu hoes. Gwneir hyn drwy sicrhau:-

  • Mwynhad mewn amgylchedd hapus, diogel a gofalgar
  • Unigolion cwrtais a charedig sy’n parchu eu hunain, eraill, eu hamgylcheddau a gwahanol ddiwylliannau
  • Cydweithrediad a chyfathrebu clir wrth alluogi pob dysgwr i gyrraedd eu llawn botensial

 

Rydym yn hybu ethos o ddisgwyliadau uchel ac yn rhoi pwyslais ar gefnogi lles yr holl rhanddeiliaid. Mae pob dysgwr yn gyfartal o ran ethnigrwydd, hiliaeth, rhywioldeb, crefydd neu gefndir economaidd-gymdeithasol. Cefnogwn hyn drwy greu cwricwlwm cynhwysol gydag arddulliau dysgu amrywiol, tu fewn a thu allan i’r ysgol, sydd yn addas ar gyfer pawb. Byddwn yn datblygu dysgwyr trwy ddarparu dulliau arloesol a deinamig o addysgu. Bydd hyn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau gydol oes sydd yn angenrheidiol mewn byd sydd yn newid ar garlam. Dathlwn bob llwyddiant, boed hynny’n academaidd, greadigol, ddiwylliannol, gymdeithasol neu ym myd chwaraeon.

Byddwn bob amser yn ganolbwynt balch a gweithgar o fewn cymuned Gymreig ein dalgylch. Ymdrechwn i greu cysylltiadau positif ac effeithiol gyda’r cymunedau lleol a byd eang. Mae ein datganiad, ‘Gallaf lwyddo ond i mi roi cynnig arni’, yn annog dyfalbarhad, gwytnwch a’r gallu i wneud penderfyniadau a fydd yn arwain at ddatblygu fel dinasyddion yr 21ain ganrif.

 

At Y Login Fach we are committed to providing the best possible opportunities to be healthy, confident, honest, creative individuals, whilst also encouraging our learners to be independent and ambitious. We are proud of our heritage and culture and ensure that our values and principles underpin everything we do. Our intention is to foster a love of learning among our learners that will benefit them for the rest of their lives. This will be done by ensuring :-

  • Enjoyment in a happy, safe and caring environment
  • Polite, kind individuals, who respect themselves, others, their surroundings and different cultures
  • Clear co-operation and communication whilst enabling all learners to reach their full potential

 

We promote an ethos of high expectations and place an emphasis on supporting the well-being of all stakeholders. All learners are equal in terms of ethnicity, racism, sexuality, religion or socio-economic background. We support this by creating an inclusive curriculum with diverse learning styles, both inside and outside school, that are suitable for everyone. We will develop learners by providing innovative and dynamic approaches to teaching. This will enable learners to develop lifelong skills that are necessary in a fast-changing world. We celebrate every success, whether academic, creative, cultural, social or sporting.

We will always be proud and active within our catchment. We endeavour to create positive and effective links with the local and global communities. Our statement, ‘Gallaf lwyddo ond i mi roi cynnig arni ', encourages perseverance, resilience and the ability to make decisions that will lead to development as citizens of the 21st century.

 

 

Prosbectws Ysgol/School Prospectus 

Targedau Gwella Ysgol 2022-2023 

Adroddiad Blynyddol i Rieni/Annual Report to Parents 

Datganiad Grant Datblygu Disgyblion/Pupil Development Grant

Canllaw at Addysg Gymraeg/Welsh Medium Education Guidance

Adroddiad Estyn/Estyn Report

Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data/GDPR and Data Protection